Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-27-13: Papur 1
GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR
CLA327 - Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiadau i ddeddfiadau a ystyrir sy'n briodol mewn cysylltiad â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ("y Mesur"). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaethau arbed sy'n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â'r Mesur.
CLA330 - Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 i sicrhau bod yr unigolion sy'n gymwys ar hyn o bryd i gael pecyn o welliannau ynni cartref o dan y Cynllun Nyth yn parhau i fod yn gymwys am gymorth pan gânt eu trosglwyddo i Gredyd Cyffredinol o ganlyniad i'r broses diwygio lles a newidiadau i Fudd-dal y Dreth Gyngor.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu'r eithriad presennol sy'n gymwys i ddeiliaid tai sy'n byw mewn eiddo o dan gynllun rhannu ecwiti.